1 Cronicl 14:11
1 Cronicl 14:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly aeth i Baal-peratsîm a’u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw’r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 141 Cronicl 14:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, “Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion â'm llaw i.” Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 141 Cronicl 14:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, DUW a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 14