Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Seffaneia 3:9-20

Seffaneia 3:9-20 BCND

“Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur, iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDD a'i wasanaethu'n unfryd. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgar sy'n ymbil arnaf. “Ar y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl waith yn gwrthryfela i'm herbyn; oherwydd symudaf o'th blith y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder, ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu yn fy mynydd sanctaidd. Ond gadawaf yn dy fysg bobl ostyngedig ac isel, a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD; ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd, ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau; oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.” Cân, ferch Seion; gwaedda'n uchel, O Israel; llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, a symud dy elynion. Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nid ofni ddrwg mwyach. Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem, “Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo; y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol, yn rhyfelwr i'th waredu; fe orfoledda'n llawen ynot, a'th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chân fel ar ddydd gŵyl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o'i blegid. Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth. Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.