“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tŷ ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml. Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd. Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn. Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’ “Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais, felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni. Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth; peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.”
Darllen Sechareia 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Sechareia 8:9-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos