Edrychais i fyny eto, a gweld pedwar cerbyd yn dod allan rhwng dau fynydd, a'r rheini'n fynyddoedd o bres. Wrth y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, wrth yr ail, feirch duon, wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion. Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?” Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear. Y mae'r cerbyd gyda cheffylau duon yn mynd i dir y gogledd, yr un gyda'r rhai gwynion i'r gorllewin, yr un gyda'r rhai brithion i'r de.” Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, “Ewch i dramwyo'r ddaear.” A gwnaethant hynny. Yna galwodd arnaf a dweud, “Edrych fel y mae'r rhai sy'n mynd i dir y gogledd wedi rhoi gorffwys i'm hysbryd yn nhir y gogledd.”
Darllen Sechareia 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Sechareia 6:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos