Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 12:1-14

Sechareia 12:1-14 BCND

Oracl. Gair yr ARGLWYDD am Israel. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD a daenodd y nefoedd a sylfaenu'r ddaear a llunio ysbryd mewn pobl: “Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem. Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw. Y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “trawaf bob ceffyl â syndod, a'i farchog â dryswch; cadwaf fy ngolwg ar dŷ Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall. Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, ‘Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.’ “Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dân yng nghanol coed, fel ffagl dân mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle. “Rhydd yr ARGLWYDD waredigaeth yn gyntaf i deuluoedd Jwda, rhag i ogoniant tŷ Dafydd a gogoniant trigolion Jerwsalem ddyrchafu'n uwch na Jwda. Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn amddiffyn trigolion Jerwsalem, a bydd y gwannaf ohonynt fel Dafydd, yn y dydd hwnnw, a llinach Dafydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau. “Yn y dydd hwnnw af ati i ddinistrio'r holl genhedloedd sy'n dod yn erbyn Jerwsalem. A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a gweddïau, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig. Y dydd hwnnw bydd y galar yn Jerwsalem gymaint â'r galar am Hadad-rimmon yn nyffryn Megido. Galara'r wlad, pob teulu wrtho'i hun—teulu llinach Dafydd wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu llinach Nathan wrtho'i hun a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu llinach Lefi wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu Simei wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; a'r gweddill o'r holl deuluoedd wrthynt eu hunain, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.