Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Titus 2:1-13

Titus 2:1-13 BCND

Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach. Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad. Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win; dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant, i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chaiff gair Duw enw drwg. Yn yr un modd, cymell y dynion ifainc i arfer hunanddisgyblaeth. Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom. Cymell y caethweision i fod yn ddarostyngedig i'w meistri ym mhob peth, i wneud eu dymuniad, i beidio â'u hateb yn ôl na lladrata oddi arnynt, ond i'w dangos eu hunain yn gwbl ffyddlon a gonest, ac felly yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr. Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist.