Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd, yn hardd fel Jerwsalem, mor urddasol â llu banerog. Tro dy lygaid oddi wrthyf, y maent yn fy nghyffroi; y mae dy wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad. Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad. Er bod trigain o freninesau a phedwar ugain o ordderchwragedd, a llancesau na ellir eu rhifo, y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori. Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?
Darllen Caniad Solomon 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Caniad Solomon 6:4-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos