O ti, y decaf o ferched,
ple'r aeth dy gariad?
Pa ffordd yr aeth dy gariad,
inni chwilio amdano gyda thi?
Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd,
i'r gwelyau perlysiau,
i ofalu am y gerddi,
ac i gasglu'r lilïau.
Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad,
ac yntau'n eiddof finnau;
y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.
Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd,
yn hardd fel Jerwsalem,
mor urddasol â llu banerog.
Tro dy lygaid oddi wrthyf,
y maent yn fy nghyffroi;
y mae dy wallt fel diadell o eifr
yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid
yn dod i fyny o'r olchfa,
y cwbl ohonynt yn efeilliaid,
heb un yn amddifad.
Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais
fel darn o bomgranad.
Er bod trigain o freninesau
a phedwar ugain o ordderchwragedd,
a llancesau na ellir eu rhifo,
y mae fy ngholomen, yr un berffaith,
ar ei phen ei hun,
unig blentyn ei mam,
y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.
Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,
ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr,
yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul,
yn urddasol fel llu banerog?
Euthum i lawr i'w ardd gnau
i edrych ar ffrwythau'r dyffryn,
a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,
a blodau ar y pomgranadau.
Ni wyddwn y cawn fy rhoi
yng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!
Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.