Mor brydferth wyt, f'anwylyd, mor brydferth wyt! Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod, a'th wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad. Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad, a'th enau yn hyfryd; y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.
Darllen Caniad Solomon 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Caniad Solomon 4:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos