Yr wyf fel rhosyn Saron, fel lili'r dyffrynnoedd. Ie, lili ymhlith drain yw f'anwylyd ymysg merched. Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau. Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
Darllen Caniad Solomon 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Caniad Solomon 2:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos