Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 2:1-23

Ruth 2:1-23 BCND

Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gŵr, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech. Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, “Gad imi fynd i'r caeau ŷd i loffa ar ôl pwy bynnag fydd yn caniatáu imi.” Dywedodd Naomi wrthi, “Ie, dos, fy merch.” Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar ôl y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech. A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi,” a hwythau'n ateb, “Bendithied yr ARGLWYDD dithau.” Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, “Geneth pwy yw hon?” Atebodd y gwas, “Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab. Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl.” Dywedodd Boas wrth Ruth, “Gwrando, fy merch, paid â mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glŷn wrth fy llancesau i. Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd â thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision.” Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, “Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?” Atebodd Boas hi a dweud, “Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar ôl marw dy ŵr, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen. Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain.” Dywedodd hi, “Yr wyt yn garedig iawn, f'arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o'th forynion di.” Dywedodd Boas wrthi, adeg bwyd, “Tyrd yma a bwyta o'r bara a gwlychu dy damaid yn y finegr.” Wedi iddi eistedd wrth ochr y medelwyr, estynnodd yntau iddi ŷd wedi ei grasu, a bwytaodd ei gwala a gadael gweddill. Yna, pan gododd hi i loffa, gorchmynnodd Boas i'w weision, “Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch â'i dwrdio; yr wyf am i chwi hyd yn oed dynnu peth allan o'r dyrneidiau a'i adael iddi i'w loffa; a pheidiwch â'i cheryddu.” Bu'n lloffa yn y maes hyd yr hwyr, a phan ddyrnodd yr hyn yr oedd wedi ei loffa, cafodd tuag effa o haidd. Fe'i cymerodd gyda hi i'r dref, a dangos i'w mam-yng-nghyfraith faint yr oedd wedi ei loffa; hefyd fe dynnodd allan y bwyd a gadwodd ar ôl cael digon, a'i roi iddi. Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, “Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot.” Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, “Boas oedd enw'r dyn y bûm yn llafurio gydag ef heddiw.” Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, “Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw.” Ac ychwanegodd Naomi, “Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf.” Yna dywedodd Ruth y Foabes, “Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf.” Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, “Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall.” A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.