Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau? Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo? A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth? Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd. Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef. Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod. Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd, a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef. Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint â'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw. Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.
Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau. Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da. Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.