A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo. Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder. Ond ysgrifennwyd y geiriau, “fe'i cyfrifwyd iddo”, nid ar gyfer Abraham yn unig, ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw. Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.
Darllen Rhufeiniaid 4
Gwranda ar Rhufeiniaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 4:18-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos