A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.
Darllen Rhufeiniaid 4
Gwranda ar Rhufeiniaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 4:18-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos