Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 4:1-12

Rhufeiniaid 4:1-12 BCND

Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef? Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus. Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder. Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.” Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”. Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl. Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt. Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.