Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod. Fel y mae'n ysgrifenedig:
“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
neb sydd yn deall,
neb yn ceisio Duw.
Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;
nid oes un a wna ddaioni,
nac oes, dim un.
Bedd agored yw eu llwnc,
a'u tafodau'n traethu twyll;
gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,
a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.
Cyflym eu traed i dywallt gwaed,
distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;
nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd;
nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.”
Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw. Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo, ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu. Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw. Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gorffennol yn amser ymatal Duw; ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.