Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un. Bedd agored yw eu llwnc, a'u tafodau'n traethu twyll; gwenwyn nadredd dan eu gwefusau, a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd. Cyflym eu traed i dywallt gwaed, distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd; nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd; nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.” Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw. Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
Darllen Rhufeiniaid 3
Gwranda ar Rhufeiniaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 3:10-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos