Yn ddiau y mae gwerth i enwaediad, os wyt yn cadw'r Gyfraith. Ond os torri'r Gyfraith yr wyt ti, y mae dy enwaediad wedi mynd yn ddienwaediad. Os yw'r sawl nad enwaedwyd arno yn cadw gorchmynion y Gyfraith, oni fydd Duw yn cyfrif ei ddienwaediad yn enwaediad? Bydd y dienwaededig ei gorff, os yw'n cyflawni'r Gyfraith, yn farnwr arnat ti, sydd yn droseddwr y Gyfraith er bod gennyt gyfraith ysgrifenedig a'r enwaediad. Nid Iddew mo'r Iddew sydd yn y golwg. Nid enwaediad chwaith mo'r enwaediad sydd yn y golwg yn y cnawd. Y gwir Iddew yw'r Iddew cuddiedig, a'r gwir enwaediad yw enwaediad y galon, peth ysbrydol, nid llythrennol. Dyma'r un sy'n cael clod, nid gan bobl eraill, ond gan Dduw.
Darllen Rhufeiniaid 2
Gwranda ar Rhufeiniaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 2:25-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos