Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 4

4
Addoliad y Nef
1Ar ôl hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel sŵn utgorn, yn dweud, “Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar ôl hyn.” 2Ar unwaith, yr oeddwn yn yr Ysbryd; ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd. 3Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt. 4O amgylch yr orsedd yr oedd hefyd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y rhain bedwar henuriad ar hugain yn eistedd mewn dillad gwyn, ac ar eu pennau goronau aur. 5O'r orsedd yr oedd fflachiadau mellt a sŵn taranau yn dod allan, ac yn llosgi gerbron yr orsedd yr oedd saith ffagl dân; y rhain yw saith ysbryd Duw. 6O flaen yr orsedd yr oedd môr megis o wydr, tebyg i risial.
Ac yng nghanol yr orsedd ac o'i hamgylch yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen a'r tu ôl. 7Yr oedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, a'r ail i lo; yr oedd gan y trydydd wyneb dynol, ac yr oedd y pedwerydd yn debyg i eryr yn hedfan. 8I'r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o'u hamgylch ac o'u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud:
“Sanct, Sanct, Sanct
yw'r Arglwydd Dduw hollalluog,
yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!”
9Pan fydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sy'n byw byth bythoedd, 10bydd y pedwar henuriad ar hugain yn syrthio o flaen yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, gan addoli'r hwn sy'n byw byth bythoedd, a bwrw eu coronau gerbron yr orsedd a dweud:
11“Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw,
i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu,
oherwydd tydi a greodd bob peth,
a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”

Dewis Presennol:

Datguddiad 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd