Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 21:10-21

Datguddiad 21:10-21 BCND

Ac aeth â mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi'r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial. Yr oedd iddi fur mawr ac uchel a deuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau deuddeg llwyth plant Israel yn ysgrifenedig ar y pyrth. Yr oedd tri phorth o du'r dwyrain, tri o du'r gogledd, tri o du'r de, a thri o du'r gorllewin. I fur y ddinas yr oedd deuddeg carreg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen. Yr oedd gan yr angel oedd yn siarad â mi ffon fesur o aur, i fesur y ddinas a'i phyrth a'i mur. Yr oedd y ddinas wedi ei llunio'n betryal, ei hyd yn gyfartal â'i lled. Mesurodd ef y ddinas â'r ffon. Yr oedd yn ddwy fil, dau gant ac ugain o gilomedrau, a'i hyd a'i lled a'i huchder yn gyfartal. A mesurodd ei mur. Yr oedd yn gant pedwar deg a phedwar cufydd, yn ôl y mesur dynol yr oedd yr angel yn mesur wrtho. Iasbis oedd defnydd y mur, a'r ddinas ei hun yn aur pur, gloyw fel gwydr. Yr oedd sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: iasbis oedd y garreg sylfaen gyntaf, saffir yr ail, chalcedon y drydedd, emrallt y bedwaredd, sardonyx y bumed, sardion y chweched, eurfaen y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, chrysoprasos y ddegfed, hyacinth yr unfed ar ddeg, amethyst y ddeuddegfed. A deuddeg perl oedd y deuddeg porth; pob porth wedi ei wneud o un perl. Ac yr oedd heol y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw.