Yr oeddwn i, Ioan, eich brawd, sy'n cyfranogi gyda chwi o'r gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r dyfalbarhad sydd i ni yn Iesu, ar yr ynys a elwir Patmos, ar gyfrif gair Duw a thystiolaeth Iesu. Yr oeddwn yn yr Ysbryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais y tu ôl imi lais uchel, fel sŵn utgorn, yn dweud, “Ysgrifenna mewn llyfr yr hyn a weli, ac anfon ef at y saith eglwys, i Effesus, i Smyrna, i Pergamus, i Thyatira, i Sardis, i Philadelffia, ac i Laodicea.”
Yna trois i weld pa lais oedd yn llefaru wrthyf; ac wedi troi, gwelais saith ganhwyllbren aur, ac yng nghanol y canwyllbrennau un fel mab dyn, a'i wisg yn cyrraedd hyd ei draed, a gwregys aur am ei ddwyfron. Yr oedd gwallt ei ben yn wyn fel gwlân, cyn wynned â'r eira, a'i lygaid fel fflam dân. Yr oedd ei draed fel pres gloyw, fel petai wedi ei buro mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. Yn ei law dde yr oedd ganddo saith seren, ac o'i enau yr oedd cleddyf llym daufiniog yn dod allan, ac yr oedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul yn ei anterth.
Pan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law dde arnaf, a dywedodd, “Paid ag ofni; myfi yw'r cyntaf a'r olaf, a'r Un byw; bûm farw, ac wele, yr wyf yn fyw byth bythoedd, ac y mae gennyf allweddau Marwolaeth a Hades. Ysgrifenna, felly, y pethau a welaist, y pethau sydd, a'r pethau sydd i fod ar ôl hyn. Dyma ystyr dirgel y saith seren a welaist ar fy llaw dde a'r saith ganhwyllbren aur: angylion y saith eglwys yw'r saith seren, a'r saith eglwys yw'r saith ganhwyllbren.”