Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 95

95
1Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,
rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
2Down i'w bresenoldeb â diolch,
gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
3Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,
a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,
ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;
ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6Dewch, addolwn ac ymgrymwn,
plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7Oherwydd ef yw ein Duw,
a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa#95:7 Felly un llawysgrif a Fersiynau. TM, bobl ei borfa, a defaid.;
heddiw cewch wybod ei rym,
os gwrandewch ar ei lais.
8Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,
fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,
9pan fu i'ch hynafiaid fy herio
a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.
10Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno,
a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt,
ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.”
11Felly tyngais yn fy nig
na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.

Dewis Presennol:

Y Salmau 95: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd