Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.” Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol; bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd, rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd. Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi. Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaid ac yn gweld tâl y drygionus. Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa
Darllen Y Salmau 91
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 91:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos