Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu, imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion. Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio. Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw. Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus. Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen. Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela
Darllen Y Salmau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 9:13-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos