Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 81

81
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I Asaff.
1Canwch fawl i Dduw, ein nerth;
bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob.
2Rhowch gân a chanu'r tympan,
y delyn fwyn a'r nabl.
3Canwch utgorn ar y lleuad newydd,
ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.
4Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel,
yn rheol gan Dduw Jacob,
5wedi ei roi'n orchymyn i Joseff
pan ddaeth allan o wlad#81:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn erbyn gwlad. yr Aifft.
Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod.
6Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,
a rhyddhau dy#81:6 Tebygol. Hebraeg, ei ysgwydd… ei. ddwylo oddi wrth y basgedi.
7Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,
ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;
profais di wrth ddyfroedd Meriba.
Sela
8Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.
O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!
9Na fydded gennyt dduw estron,
a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.
10Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
a'th ddygodd i fyny o'r Aifft;
agor dy geg, ac fe'i llanwaf.
11Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais,
ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf;
12felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwydd
i wneud fel yr oeddent yn dymuno.
13“O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf,
ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd!
14Byddwn ar fyrder yn darostwng eu gelynion,
ac yn troi fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.”
15Byddai'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD yn ymgreinio o'i flaen,
a dyna eu tynged am byth.
16Byddwn yn dy#81:16 Tebygol. Hebraeg, Byddai yn ei. fwydo â'r ŷd gorau,
ac yn dy ddigoni â mêl o'r graig.

Dewis Presennol:

Y Salmau 81: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda