Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 80:1-19

Y Salmau 80:1-19 BCND

Gwrando, O fugail Israel, sy'n arwain Joseff fel diadell. Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid, disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse. Gwna i'th nerth gyffroi, a thyrd i'n gwaredu. Adfer ni, O Dduw; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl? Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau, a'u diodi â mesur llawn o ddagrau. Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion, ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio. O Dduw'r Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. Daethost â gwinwydden o'r Aifft; gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu; cliriaist y tir iddi; magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir. Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd, a'i changau fel y cedrwydd cryfion; estynnodd ei brigau at y môr, a'i blagur at yr afon. Pam felly y bylchaist ei chloddiau, fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth? Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori. O Dduw'r Lluoedd, tro eto, edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl, gofala am y winwydden hon, y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw, y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu. Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawr gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd. Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw, ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu. Ni thrown oddi wrthyt mwyach; adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw. ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.