Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 80

80
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.
1Gwrando, O fugail Israel,
sy'n arwain Joseff fel diadell.
2Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid,
disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse.
Gwna i'th nerth gyffroi,
a thyrd i'n gwaredu.
3Adfer ni, O Dduw;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
4O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,
am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?
5Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,
a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.
6Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,
ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.
7O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
8Daethost â gwinwydden o'r Aifft;
gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;
9cliriaist y tir iddi;
magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.
10Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,
a'i changau fel y cedrwydd cryfion;
11estynnodd ei brigau at y môr,
a'i blagur at yr afon.
12Pam felly y bylchaist ei chloddiau,
fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?
13Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,
ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.
14O Dduw'r Lluoedd, tro eto,
edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,
gofala am y winwydden hon,
15y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,
y gainc#80:15 Hebraeg, mab. yr wyt yn ei chyfnerthu.
16Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawr
gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.
17Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,
ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.
18Ni thrown oddi wrthyt mwyach;
adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.
19 ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

Dewis Presennol:

Y Salmau 80: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda