Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 8

8
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. Salm. I Ddafydd.
1O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,
2codaist amddiffyn rhag dy elynion
o enau babanod a phlant sugno,
a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
3Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,
y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,
4beth yw meidrolyn, iti ei gofio,
a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?
5Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw#8:5 Neu, Duw.
a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd.
6Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo,
a gosod popeth dan ei draed:
7defaid ac ychen i gyd,
yr anifeiliaid gwylltion hefyd,
8adar y nefoedd, a physgod y môr,
a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.
9O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Dewis Presennol:

Y Salmau 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd