Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 79

79
Salm. I Asaff.
1O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth,
a halogi dy deml sanctaidd,
a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.
2Rhoesant gyrff dy weision
yn fwyd i adar yr awyr,
a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.
3Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵr
o amgylch Jerwsalem,
ac nid oes neb i'w claddu.
4Aethom yn watwar i'n cymdogion,
yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.
5Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?
A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?
6Tywallt dy lid ar y cenhedloedd
nad ydynt yn dy adnabod,
ac ar y teyrnasoedd
nad ydynt yn galw ar dy enw,
7am iddynt ysu Jacob
a difetha ei drigfan.
8Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,
ond doed dy dosturi atom ar frys,
oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.
9Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,
oherwydd anrhydedd dy enw;
gwared ni, a maddau ein pechodau
er mwyn dy enw.
10Pam y caiff y cenhedloedd ddweud,
“Ple mae eu Duw?”
Dysger y cenhedloedd yn ein gŵydd
beth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.
11Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat,
ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.
12Taro'n ôl seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw,
y gwatwar a wnânt wrth dy ddifrïo, O Arglwydd.
13Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa,
yn dy foliannu am byth,
ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 79: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda