Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.
Agoraf fy ngenau mewn dihareb,
a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
pethau a glywsom ac a wyddom,
ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,
ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod
weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,
a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
Fe roes ddyletswydd ar Jacob,
a gosod cyfraith yn Israel,
a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,
i'w dysgu i'w plant;
er mwyn i'r to sy'n codi wybod,
ac i'r plant sydd heb eu geni eto
ddod ac adrodd wrth eu plant;
er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,
a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,
ond cadw ei orchmynion;
rhag iddynt fod fel eu tadau
yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,
yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn
a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,
droi yn eu holau yn nydd brwydr,
am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,
a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
am iddynt anghofio ei weithredoedd
a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid
yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,
a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,
a thrwy'r nos â thân disglair.
Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
dygodd ffrydiau allan o graig,
a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,
ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau
trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,
“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,
ac i afonydd lifo,
ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,
ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”
Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;
cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,
a chododd llid yn erbyn Israel,
am nad oeddent yn credu yn Nuw,
nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.
Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod,
ac agorodd ddrysau'r nefoedd;
glawiodd arnynt fanna i'w fwyta,
a rhoi iddynt ŷd y nefoedd;
yr oedd pobl yn bwyta bara angylion,
a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder.
Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd,
ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt;
glawiodd arnynt gig fel llwch,
ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr;
parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll,
o gwmpas eu pebyll ym mhobman.
Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,
oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.
Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,
a'r bwyd yn dal yn eu genau,
cododd dig Duw yn eu herbyn,
a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,
a darostwng rhai dewisol Israel.
Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,
ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.
Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,
a'u blynyddoedd mewn dychryn.
Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;
yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.
Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,
ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.
Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,
ac yn dweud celwydd â'u tafodau;
nid oedd eu calon yn glynu wrtho,
ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.