Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti; y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau. Manteisiaf ar yr amser penodedig, ac yna barnaf yn gywir. Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion, myfi sy'n cynnal ei cholofnau. Sela Dywedaf wrth yr ymffrostgar, “Peidiwch ag ymffrostio”, ac wrth y drygionus, “Peidiwch â chodi'ch corn; peidiwch â chodi'ch corn yn uchel na siarad yn haerllug wrth eich Craig.” Nid o'r dwyrain na'r gorllewin nac o'r anialwch y bydd dyrchafu, ond Duw fydd yn barnu— yn darostwng y naill ac yn codi'r llall. Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD, a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu; fe dywallt ddiod ohono, a bydd holl rai drygionus y ddaear yn ei yfed i'r gwaelod. Ond clodforaf fi am byth, a chanaf fawl i Dduw Jacob, am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus, a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.
Darllen Y Salmau 75
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 75:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos