Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl, a'r bryniau â chyfiawnder. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr. Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
Darllen Y Salmau 72
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 72:2-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos