Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 67

67
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. Cân.
1Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,
bydded llewyrch ei wyneb arnom,
Sela
2er mwyn i'w#67:2 Felly llawysgrifau a Syrieg. TM, i'th. ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,
a'i#67:2 Felly Syrieg. Hebraeg, a'th. waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.
3Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
4Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,
oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,
ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.
Sela
5Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
6Rhoes y ddaear ei chnwd;
Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.
7Bendithiodd Duw ni;
bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.

Dewis Presennol:

Y Salmau 67: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd