Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 65

65
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Cân.
1Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion;
2ac i ti, sy'n gwrando gweddi,#65:2 Hebraeg, sy'n gwrando gweddi yn yr adn. ddilynol. y telir adduned.
3Atat ti y daw pob un â'i gyffes o bechod:
“Y mae ein troseddau'n drech na ni,
ond yr wyt ti'n eu maddau.”
4Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos,
iddo gael preswylio yn dy gynteddau;
digoner ninnau â daioni dy dŷ,
dy deml sanctaidd.
5Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth,
O Dduw ein hiachawdwriaeth;
ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear
a phellafoedd y môr;
6gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th#65:6 Felly Fersiynau. Hebraeg, â'i. nerth,
yr wyt wedi dy wregysu â chryfder;
7yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd,
rhu eu tonnau,
a therfysg pobloedd.
8Y mae trigolion cyrion y byd
yn ofni dy arwyddion;
gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.
9Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,
gwnaethost hi'n doreithiog iawn;
y mae afon Duw'n llawn o ddŵr;
darperaist iddynt ŷd.
Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:
10dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau,
ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.
11Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni,
ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.
12Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,
a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;
13y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid,
a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd.
Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.

Dewis Presennol:

Y Salmau 65: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda