Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 64

64
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno;
achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,
2cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus
a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—
3rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,
ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,
4i saethu'r dieuog o'r dirgel,
i saethu'n sydyn a di-ofn.
5Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,
ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,
a dweud, “Pwy all ein#64:5 Felly Syrieg. Hebraeg, eu. gweld?”
6Y maent yn dyfeisio drygioni,
ac yn cuddio'u dyfeisiadau;
y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!
7Ond bydd Duw'n eu saethu â'i saeth;
yn sydyn y daw eu cwymp.
8Bydd yn eu dymchwel#64:8 Tebygol. Hebraeg, A gwnaethant hwy iddo ddymchwel. oherwydd eu tafod,
a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.
9Daw ofn ar bawb,
a byddant yn adrodd am waith Duw,
ac yn deall yr hyn a wnaeth.
10Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD,
a llochesu ynddo,
a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.

Dewis Presennol:

Y Salmau 64: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda