O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster, a moliannaf di â gwefusau llawen.
Darllen Y Salmau 63
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 63:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos