Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam. Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn; felly dysg imi ddoethineb yn y galon. Pura fi ag isop fel y byddaf lân; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira. Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl euogrwydd. Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.
Darllen Y Salmau 51
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 51:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos