Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddof fi holl greaduriaid y maes. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti, oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo. A fwytâf fi gig eich teirw, neu yfed gwaed eich bychod geifr? Rhowch i Dduw offrymau diolch, a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.” Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw, “Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau, ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau? Yr wyt yn casáu disgyblaeth ac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl. Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn, a bwrw dy goel gyda godinebwyr. Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni, a'th dafod yn nyddu twyll. Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd, ac yn enllibio mab dy fam. Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw; tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun, ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn. “Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw, rhag imi eich darnio heb neb i arbed. Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu, ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”
Darllen Y Salmau 50
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 50:11-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos