Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 49

49
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.
1Clywch hyn, yr holl bobloedd,
gwrandewch, holl drigolion byd,
2yn wreng a bonedd,
yn gyfoethog a thlawd.
3Llefara fy ngenau ddoethineb,
a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.
4Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,
a datgelaf fy nychymyg â'r delyn.
5Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,
pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,
6rhai sy'n ymddiried yn eu golud
ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?
7Yn wir, ni all neb ei waredu ei hun#49:7 Felly rhai llawysgrifau. TM, waredu ei frawd.
na thalu iawn i Dduw—
8oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd,
ac ni all byth ei gyrraedd—
9iddo gael byw am byth
a pheidio â gweld Pwll Distryw.
10Ond gwêl fod y doethion yn marw,
fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi,
ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.
11Eu bedd#49:11 Felly Fersiynau. Hebraeg, Eu canol. yw eu cartref bythol,
eu trigfan dros y cenedlaethau,
er iddynt gael tiroedd i'w henwau.
12Ni all neb aros mewn rhwysg;
y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
13Dyma yw tynged yr ynfyd,
a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau.
Sela
14Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol;
angau fydd yn eu bugeilio;
disgynnant yn syth i'r bedd,
a bydd eu ffurf yn darfod;
Sheol fydd eu cartref.#49:14 Tebygol. Hebraeg, bugeilio. Bydd yr uniawn yn llywodraethu drostynt yn y bore, a bydd eu cyrff i Sheol er difrodi o'r gogoniant a fu iddynt.
15Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywyd
ac yn fy nghymryd o afael Sheol.
Sela
16Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog
a phan gynydda golud ei dŷ,
17oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw,
ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
18Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd,
a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,
19fe â at genhedlaeth ei hynafiaid,
ac ni wêl oleuni byth mwy.
20Ni all neb aros#49:20 Felly llawysgrifau. TM ac adn. 12, ddeall. mewn rhwysg;
y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.

Dewis Presennol:

Y Salmau 49: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd