Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 40:1-13

Y Salmau 40:1-13 BCND

Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll. Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm— rhoddaist imi glustiau agored— ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon.” Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr. Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser. Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo. Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 40:1-13

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd