Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus; oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth. Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn. Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg. Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl, ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog. Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo. Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius, y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad; er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law. Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara; y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg, a'i blant yn fendith. Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda, a chei gartref diogel am byth, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus. Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, a'i dafod yn mynegi barn
Darllen Y Salmau 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 37:16-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos