O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych? Gwared fi rhag eu dinistr, a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr. Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr, a'th foliannu gerbron tyrfa gref. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos, nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch; ond yn erbyn rhai tawel y wlad y maent yn cynllwyn dichellion. Y maent yn agor eu cegau yn f'erbyn ac yn dweud, “Aha, aha, yr ydym wedi gweld â'n llygaid!” Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi; fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf. Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi, i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd. Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw, ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos. Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain, “Aha, cawsom ein dymuniad!” Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.” Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd; bydded gwarth ac amarch yn gorchuddio y rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn. Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhau orfoleddu a llawenhau; bydded iddynt ddweud yn wastad, “Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.” Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.
Darllen Y Salmau 35
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 35:17-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos