Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau. Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu. Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd. Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau. Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.
Darllen Y Salmau 34
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 34:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos