Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 33:1-22

Y Salmau 33:1-22 BCND

Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn; i'r rhai uniawn gweddus yw moliant. Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn, canwch salmau iddo â'r offeryn dectant; canwch iddo gân newydd, tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd. Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd. Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau. Casglodd y môr fel dŵr mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai. Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo. Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd. Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau. Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi, y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun. Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd, ac yn gweld pawb oll; o'r lle y triga y mae'n gwylio holl drigolion y ddaear. Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt, y mae'n deall popeth a wnânt. Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin, ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr. Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth; er ei holl gryfder ni all roi ymwared. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna, ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb, i'w gwaredu rhag marwolaeth a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn. Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD; ef yw ein cymorth a'n tarian. Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd. O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom, fel yr ydym wedi gobeithio ynot.