Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder, tro dy glust ataf, a brysia i'm gwaredu; bydd i mi'n graig noddfa, yn amddiffynfa i'm cadw. Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi. Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer, oherwydd ti yw fy noddfa. Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon. Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD. Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb, oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.
Darllen Y Salmau 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 31:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos