Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 28

28
I Ddafydd.
1Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf;
fy nghraig, paid â thewi tuag ataf—
rhag, os byddi'n ddistaw,
imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
2Gwrando ar lef fy ngweddi
pan waeddaf arnat am gymorth,
pan godaf fy nwylo
tua'th gysegr sanctaidd.
3Paid â'm cipio ymaith gyda'r drygionus
a chyda gwneuthurwyr drygioni,
rhai sy'n siarad yn deg â'u cymdogion
ond sydd â chynnen yn eu calon.
4Tâl iddynt am eu gweithredoedd
ac am ddrygioni eu gwaith;
tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo,
rho eu haeddiant iddynt.
5Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDD
na gwaith ei ddwylo ef,
bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.
6Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD
am iddo wrando ar lef fy ngweddi.
7Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian;
ynddo yr ymddiried fy nghalon;
yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon,
a rhof foliant iddo ar gân.
8Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl#28:8 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. Hebraeg, iddynt.
ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.
9Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth;
bugeilia hwy a'u cario am byth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 28: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda