Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu. Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi, rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl. Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid, ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd. Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr. Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus. Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog, ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD, a chanu'n uchel mewn diolchgarwch ac adrodd dy holl ryfeddodau. O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tŷ lle'r wyt yn trigo, y man lle mae dy ogoniant yn aros. Paid â'm rhoi gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd, rhai sydd â chamwri ar eu dwylo a'u deheulaw'n llawn o lwgrwobrwyon. Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir; gwareda fi a bydd drugarog wrthyf. Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb; bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa.
Darllen Y Salmau 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 26:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos