Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 26

26
I Ddafydd.
1Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir
ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu.
2Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi,
rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl.
3Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid,
ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd.
4Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth,
nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.
5Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg,
ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.
6Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog,
ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,
7a chanu'n uchel mewn diolchgarwch
ac adrodd dy holl ryfeddodau.
8O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tŷ lle'r wyt yn trigo,
y man lle mae dy ogoniant yn aros.
9Paid â'm rhoi gyda phechaduriaid,
na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd,
10rhai sydd â chamwri ar eu dwylo
a'u deheulaw'n llawn o lwgrwobrwyon.
11Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir;
gwareda fi a bydd drugarog wrthyf.
12Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb;
bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa.

Dewis Presennol:

Y Salmau 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda