Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,
ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,
a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu
yn foliant i Israel.
Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,
yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,
ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
Pryfyn wyf fi ac nid dyn,
gwawd a dirmyg i bobl.
Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,
yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
“Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!
Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”
Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,
a'm rhoi ar fronnau fy mam;
arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,
ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.
Paid â phellhau oddi wrthyf,
oherwydd y mae fy argyfwng yn agos
ac nid oes neb i'm cynorthwyo.
Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,
rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;
y maent yn agor eu safn amdanaf
fel llew yn rheibio a rhuo.
Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,
a'm holl esgyrn yn ymddatod;
y mae fy nghalon fel cwyr,
ac yn toddi o'm mewn;
y mae fy ngheg yn sych fel cragen
a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;
yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
Y mae cŵn o'm hamgylch,
haid o ddihirod yn cau amdanaf;
y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.
Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,
ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,
ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;
O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
Gwared fi rhag y cleddyf,
a'm hunig fywyd o afael y cŵn.
Achub fi o safn y llew,
a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,
a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
“Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD;
rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;
ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru
gorthrwm y gorthrymedig;
ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho,
ond gwrando arno pan lefodd.”
Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr,
a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon,
a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli.
Bydded i'w calonnau fyw byth!
Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio
ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD,
a holl dylwythau'r cenhedloedd
yn ymgrymu o'i flaen.
Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth,
ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef,
a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen?
Ond byddaf fi fyw iddo ef,
a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu;
dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,
a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni,
mai ef a fu'n gweithredu.