Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul, sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell, yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs. O eithaf y nefoedd y mae'n codi, a'i gylch hyd yr eithaf arall; ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid; y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un. Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na mêl, ac na diferion diliau mêl. Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr. Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd. Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr. Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.
Darllen Y Salmau 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 19:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos